Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(236)v5

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd (30 munud)

Dogfennau ategol:

 

Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru 2014

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol – Llyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru

Ymateb y Gweinidog i Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

</AI3>

<AI4>

4 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (30 munud)

NDM5649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dim pwyntiau adrodd

 

</AI4>

<AI5>

5 Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 (15 munud)

NDM5650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

</AI5>

<AI6>

6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caethwasiaeth Fodern – darpariaethau sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ar adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran (15 munud)

NDM5645 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caethwasiaeth Fodern sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ynghylch adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/modernslavery.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

</AI6>

<AI7>

7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Troseddau Difrifol (15 munud)

NDM5646 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â chreulondeb at blant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

</AI7>

<AI8>

8 Dadl: Cyllideb Derfynol 2015-16 (60 munud)

NDM5651 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

 

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 2 Rhagfyr 2014.

 

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

 

1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

 

2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

 

3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

 

4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

 

5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

 

Darparwyd yr wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:

Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.

 

Dogfen Ategol

Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2015-16

</AI8>

<AI9>

9 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (60 munud)

NDM5652 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

 

Gosodwyd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 7 Gorffennaf 2014.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwydd

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

</AI9>

<AI10>

10 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (5 munud)

NDM5653 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

</AI10>

<AI11>

11 Cyfnod Pleidleisio 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>